english

 

TAITH GERDDED
TREFTADAETH LLANPUMSAINT

cartref | taith gerdded
mannau eraill o ddiddordeb | cysylltiadau

15. Caersalem

Caersalem chapel

Ar ddechrau'r 20fed ganrif penderfynnodd aelodau Capel Ffynnonhenri oedd y tu allan i'r pentref, y byddai'n ddoeth i gael lle yn agosach i gannol y pentref i gynnal Ysgol Sul neu colli presenoldeb plant y pentref i'r capeli oedd mewn lleoliad mwy cyfleus.

Felly yn 1907, cafodd Caersalem ei hadeiladu ac yn y degawdau canlynnol aeth o nerth i nerth gan gynnig i'r pentrefwyr gymysgedd o wasanaethau crefyddol, canu cymdeithasol ac eisteddfodau.

Mae Benjamin Davies, yr unig filwr lleol cafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cael ei gladdu ym mynwent Caersalem.

 

Caersalem chapel

Parhewch i gerdded ar hyd yr heol a stopiwch yn union cyn pont y rheilffordd. Mae mynediad Clwtte Cochion y pwynt nesaf o ddiddordeb ar y dde. >>

 


Map sy'n dangos mannau o ddiddordeb ar y daith gerdded

Gwrandewch ar y dudalen hon